1 - 7 Hydref 2012

CARTREF  ENGLISH

Jeroen Theunissen

Jeroen Theunissen

Ganwyd Jeroen Theunissen yn Ghent (Gwlad Belg) yn 1977. Astudiodd iaith a llenyddiaeth Almaeneg a chyhoeddwyd ei gerddi mewn nifer o gyfnodolion llenyddiaeth. Ei gyfrol gyntaf oedd y nofel 'De onzichtbare' (yr Anweledig) yn 2004. Mae'n bortread pruddglwyfus o bobl gyffredin, ac mewn un adolygiad fe'i galwyd yn "ymchwiliad cymdeithasegol ar ffurf nofel". Y flwyddyn ganlynol cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth 'Thuisverlangen' (Hiraeth). Yn 2006 cyhoeddodd 'Het Einde' (Y Diwedd) sy'n craffu ar heriau'r byd modern ac ar yr un pryd yn ymestyn ffiniau ffuglen.. Yn 2008 cyhoeddwyd 'Een vorm van vermoeidheid' (Math o Flinder), nofel am ddyn sy'n gadael ei fywyd cyfforddus i deithio i Batagonia. Cyhoeddodd ail gasgliad o farddoniaeth yn 2009, 'Het zit zo' (Sut mae). Yn 2010 cyhoeddodd ei nofel ddiweddaraf, 'The stolp' (Y Gloch).

"In the two collections of poetry he has published to date, Theunissen takes to task the language of mass media, marketing and the ideology of the free market. In his poems Theunissen unmasks not only the coquettish and empty language of mass media (as in, for example, a poem made from one long citation of an interview, as a means of exposing its meaninglessness), he also searches for ways not to fall prey to it. Incorporating stylistic idiosyncrasies, he expropriates language from the hands of managers and marketeers to restore it to its true potential and power." (Bart Van der Straeten)

 

In de ruimte

1.

Ik, eenendertig, blakend van kracht en gezondheid,
van vreugde en woede, trok in de ruimte,
keerde naar de ruimte terug. Ik, man van de lege
sleutelgaten, vond een bestemming.

Ik reisde in de ruimte, werd ruimtetoerist,
ik ging te voet in de ruimte. Ik vertrok
op een vijfentwintigste oktober,
mijn huis kermde slapeloos landschap.

Mijn ogen vloeiden over eerste bewoners,
ik zag tennisvelden ver, en ik werd optimist,
ik werd ruimtetoerist, tussen Brugge
en Gent was de lucht een witte vliegtuiglijn.

Jij maan at laatste witte kevers,
jullie lampen waren niet aan,
jij zon stofte woningen af
en de wijsheid telde haar geld.

En ik kwam aan café sportvrienden brasserie,
ik pelgrim. En in mijn rugzak had ik gestopt:
lavendel, marjolein, melk, grond, een handdoek,
een broek, schoenen, een trui, proviand,

adressen van mogelijkheden, ik nam een lied
van de tsjif tsjaf mee, een lied van de dancing queen,
een lach van vers sinaasappelsap, en ik nam een tent
en een slaapzak mee, ik vergat het compas.

Ik stuurde een mailtje naar newsletter punt com,
naar Abdelkarim, naar Jozef en Katja,
naar Anne-Katrien, naar Cecilia en Nadia,
naar Wim en Veerle en Ingrid en Els,

naar Walter en Pieter en Piet en Nel,
naar Wouter, Kees, Hans, Karim en Willem en Jan,
naar tantes en nonkels, naar werkgever en arts,
ik schreef: ik vertrek, lieve mensen,

maar jullie krijgen bericht van mij uit de ruimte,
ik stuur jullie zeker een mail als daar in de ruimte
mogelijkheid toe is. Want ik had muren verlaten,
de zee verlaten en de bergen, zonder heimwee,

op expeditie, ik had een ticket op zak
voor andere oorden en ik had ook een retour,
de toekomst bestond, lag in handen als een knoop
in een laken, mevrouw ik liet u dus achter.

 

 

© 2009, Jeroen Theunissen
O: Het zit zo
Cyhoeddwr: Meulenhoff-Manteau, Antwerp, 2009

 

I fyny yn y gofod

1.

Pan oeddwn i'n dri-deg-un, yn sgleinio gan iechyd
a chryfder, yn llawn dedwyddwch a dicter,
hedfanais i'r gofod, dychwelais i'r gofod. Ac fel dyn
a wyddai am dyllau cloeon gweigion, gwelais y dyfodol.

Teithiais trwy'r gofod, deuthum yn un o dwristiaid
y gofod, cerddais trwy'r gofod. Gadewais
ar y pumed-ar-hugain o Hydref,
a'r diwrnod hwnnw y griddfannodd fy nghartref yn dirwedd ddi-gwsg

Crwydrodd fy llygaid nes canfod y brodorion cynharaf,
gwelais gyrtiau tenis, a ches ddos o optimistiaeth,
crwydrwr gofod, ac ar y daith rhwng Ghent
a Bruges roedd yr aer yn gynffon awyren wen.

Ti, y lleuad, a lyncodd y chwilod gwynion olaf,
ac roeddech chithau, oleuadau, wedi'ch diffodd,
yr haul fwytaodd yr holl dai,
tra'r oedd doethineb yn cyfri'r ceiniogau.

Cerddais i mewn i'r caffi chwaraeon
fel pererin. Ac yn fy rycsac yr oedd:
lafant, marjoram, llefrith, pridd, a lliain,
trowsus, esgidiau, siwmper, adnoddau,

cyfeiriadau rhai addewidion, a chymerais hefyd gyda mi gân,
cân y telor, cân y ddawnswraig,
chwerthin orenau ffres, a phabell
a sach gysgu, heb gwmpawd.

Anfonais e-bost i gylchlythyr dot com,
nodyn at Abdelkarim, Jozef a Katja,
Anne-Katrien, Cecilia a Nadia,
Wim a Veerle ac Ingrid ac Els,

Walter a Pieter a Piet a Nel,
Wouter, Kees, Hans, Karim a Willem a Jan,
at fodrybedd ac ewythrod, at fy nghyflogwr a fy meddyg,
ac adroddais: Dw i'n mynd, fy mhobol, dw i'n gadael -

ond fe glywch fy hynt a helynt o'r gofod, ysgrifennaf
atoch e-bost os oes cysylltiad band eang
i fyny'n fan'na. Ac oherwydd i mi ymwrthod a'r waliau, gadael
y môr a'r mynydd, heb gydnabod fy hiraeth,

ar y daith, yn fy mhoced, roedd gen i docyn
i le arall, a'r opsiwn i ddychwelyd,
roedd y dyfodol yno, fel cwlwm mewn cynfas ar y gwely
yn fy nwrn: a throais fy nghefn arnat ti, missus.

 

 

Jeroen Theunissen (cyfieithwyd gan Karen Owen, Medi 2012)


Ty Newydd

Literature Across Frontiers

poetry wales

Pontio

Literature Wales Aberystwyth University Gwynedd

Bangor University

Arts Council of Wales

Wales Literature Exchange

Whistlestop Cafe

British Council Palas Print the absurd
Goethe Institut Translators House Wales Kunst Purple Moose aelg logo Galicia logo In Chapters EU logo