17 - 22 Hydref 2013

HOME  ENGLISH

Violet Grigorian

 

Violet Grigorian

Violet Grigorian: Ganed yn Tehran yn 1962. Yn 1975 symudodd i fyw i Armenia Sofietaidd gyda'i theulu. Astudiodd ieitheg yn yr Institiwt Addysgu Khachatur Abovian State. Hi yw sylfaenydd a chyd-olygydd y cyfnodolyn llenyddol "Bnagir". Yn aelod o "Center for Free Speech", mae hefyd wedi cyflwyno sawl cyfres deledu a chyhoeddi pum cyfrol o farddoniaeth - Verily, Verily I say (1990, Yerevan), Verily, Verily I say, City (1998, Los Angeles), It's Such a Harsh Winter (mewn Armeneg ynghyd â French, 2000, Ffrainc).

Mae Violet Grigorian yn aelod o Undeb Awduron Armenia ers 1990. Yn 1986, enillodd Wobr Llenyddiaeth Cymdeithas y Comiwnyddion Ifanc ac yn 1991 derbyniodd wobr flynyddol Undeb yr Awdurdon am True, I'm Telling the Truth (1991). Yn 2000 enillodd wobr "Golden Reed" y dalaith am lenyddiaeth am The City (1998).

Mae ei cherddi wedi'u cynnwys mewn antholegau yn Ffrainc ac yn y casgliadau Saesneg eu cyfrwng Anthology of the Armenian PEN Centre (Yerevan, 1999); From Ararat to Angeltown gan Emily Artinian, (London, 2005); The Other Voice: Armenian Women's Poetry Through the Ages (2006); ynghyd â Deviation: an Anthology of Contemporary Armenian Literature (2008). Mae ei cherddi hefyd wedi'u cyfieithu i ieithoedd Slofacia, Macedonia, Georgia a'r Wcráin.


 
 

 


Ty Newydd

Literature Across Frontiers

poetry wales

Pontio

Literature Wales Aberystwyth University

Bangor University

Arts Council of Wales

Wales Literature Exchange

Whistlestop Cafe

Portmeirion Palas Print
EU logo Translators House Wales the absurd Gwynedd Czech Centre Arts Council of England
Arc Publications Blue Sky Cafe